Description: MIClogodugwyn.jpg                                                                                      1 Hydref 2014

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Annwyl William Powell, Cadeirydd Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

 

Ysgrifennaf mewn ymateb i’r ohebiaeth ddiweddaraf rhwng y Pwyllgor Deisebau a’r Prif Weinidog ynglŷn â’r ddeiseb a gyflwynwyd gan Dyfodol i’r Iaith.

 

Croesawn sylwadau’r Prif Weinidog ynglŷn â phwysigrwydd gwaith y Mentrau Iaith, a chytunwn yn llwyr fod gan y Mentrau rôl allweddol i’w chwarae er mwyn gwireddu’r weledigaeth a amlinellir yn y datganiad polisi diweddaraf, Bwrw Mlaen.  Rydym hefyd yn cynnal trafodaethau adeiladol â Swyddogion y Llywodraeth ynglŷn â strwythurau newydd yr Awdurdodau Lleol, a’r cyfleoedd y mae hyn yn eu rhoi i’r Mentrau ddatblygu.

 

Rydym eisoes wedi croesawu’r cyllid ychwanegol, sef £750,000 a glustnodwyd yn ddiweddar i ddatblygu gwaith y Mentrau Iaith ymhellach.  Cydnabyddwn yn llwyr ein bod ni’n wynebu cyfnod heriol yn nhermau’r gyllideb, ond fel rydym wedi egluro eisoes nid yw trawsnewid dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol yn faes polisi y gallem roi i’r neilltu gan ddisgwyl cyfnodau gwell.  Mae angen cymryd camau pendant a chadarnhaol nawr dros y Gymraeg er mwyn gosod seiliau mwy cadarn iddi yn ein cymunedau, ac mae angen parhau i gynyddu’r buddsoddiad yn yr iaith.

 

Hoffem dynnu sylw’r Pwyllgor at bwynt pwysig a godwyd yn ein llythyron blaenorol, sef yr angen i gynnal asesiad annibynnol o’r adnoddau sydd angen ar y Mentrau iddynt ddatblygu a gweithredu i’w potensial llawn.  Yn wir, mae'n anodd credu na wnaethpwyd hyn erioed o'r blaen. Mae gwir angen ei wneud, bellach, yng nghyswllt datganiad y Prif Weinidog am bwysigrwydd y Mentrau, er mwyn galluogi'r Llywodraeth a'r Mentrau i gynllunio'n fwy gwyddonol i ddatblygu'r gwaith. Rydym eto i glywed mwy am farn y Llywodraeth a’r Pwyllgor ynghylch y mater hwn.

 

Teimlwn ei bod hi’n amserol i Dyfodol i’r Iaith gyfarfod â chi fel Pwyllgor i drafod eu deiseb ac i gael cefnogaeth bellach gan y Pwyllgor i weithredu’n gadarnhaol ar yr hyn y mae pobl ledled Cymru wedi ei gefnogi trwy lofnodi’r ddeiseb.  Fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn awyddus iawn i ymuno â chi.

 

Yn gywir,

Meirion Ll Davies

 

Description: Llofnod Meirion.jpg

 

Ar ran Pwyllgor Gweithredol Mentrau Iaith Cymru